P-05-1134 Capiwch holl dreth gyngor sir Cymru ar 3 y cant. Rhaid cynnal refferendwm o’r cyhoedd os dymunir mynd dros 3 y cant
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Gerald Newton Jones, ar ôl casglu cyfanswm o 524 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Dwi wedi bod yn byw yn Sir Conwy y rhan fwyaf o fy mywyd, cefais fy ngeni yn y Rhyl, o rieni o Gymru, ac erbyn hyn dwi wedi ymddeol ac fel pawb arall rydym wedi gorfod dioddef cynnydd o 14.5 y cant yn y dreth gyngor yn ystod y dwy flynedd ddiwethaf. Rydym ar fin cyrraedd sefyllfa lle y bydd yn rhaid i bobl sy'n byw yng Nghymru naill ai leihau maint eu cartrefi neu symud i Loegr lle mae capio ar dreth o’r fath yn parhau i fod mewn grym. Bydd hyn, ynghyd â Llywodraeth Cymru a fydd yn rheoli 50 y cant o’n treth incwm cyn bo hir, yn gyrru pobl a busnesau allan o Gymru.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae'r dreth gyngor ar gyfer 2 o bensiynwr sy'n byw gyda'i gilydd mewn eiddo safonol y gwnaethon nhw ei adeiladu eu hunain bellach yn dileu dros 1/6 o gyfanswm incwm eu pensiynau. Yna, ar hyn o bryd mae £1000 o gyfanswm incwm eu pensiwn yn cael ei drethu ymhellach ar gyfradd o 20 y cant.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Gorllewin Clwyd
· Gogledd Cymru